Cymdeithas dros Ddiagnosau, Ymyriadau a Chamlyniadau Nyrsio Ewropeaidd Cyffredin

 

Croeso i safle we

ACENDIO

Cymdeithas dros Ddiagnosau, Ymyriadau a Chamlyniadau Nyrsio Ewropeaidd Cyffredin

 

Corff Aelodaeth yw'r Gymdeithas dros Ddiagnosau, Ymyriadau a Chanlyniadau Nyrsio Ewropeaidd Cyffredin a sefydlwyd ym 1995 i hybu datblygiad iaith broffesiynol nyrsio a darparu rhwydwaith ar draws Ewrop ar gyfer nyrsys sydd â diddordeb mewn datblygu iaith gyffredin i ddisgrifio ymarfer nyrsio.

Mae angen i nyrsys ar draws Ewrop allu rhannu a chymharu gwybodaeth ynghylch ymarfer er mwyn ymchwilio i mewn i ofal a'i wella, rheoli adnoddau nyrsio'n effeithiol a sicrhau bod nyrsio yn weladwy mewn polisi lleol, cenedlaethol ac Ewropeaidd.

I wneud hyn mae angen iddynt yn gyntaf allu mynegi, yn eu hiaith hwy eu hunain, beth y maent yn ei wneud ar gyfer cleifion a chleientiaid, pam, a beth yw'r canlyniadau. Wedyn mae'n rhaid iddynt allu rhannu a chymharu eu hymadroddion gyda rhai nyrsys eraill drwy derminoleg gyffredin, wedi ei safoni, sy'n sicrhau bod tebyg yn cael ei gymharu gyda'i debyg. Mae'n rhaid i iaith broffesiynol Nyrsio gwmpasu holl ystod ac amrywiaeth gofal cyfannol unigol: nid oes a wnelo datblygu'r iaith hon â safoni gofal, ond â chyrraedd safonau ar gyfer y ffordd yr ydym yn mynegi nyrsio.

Mae nyrsys yn rhai o wledydd Ewrop yn datblygu terminolegau i gyfarfod ag angen eu gwlad am iaith nyrsio. Mae eraill wedi addasu neu gyfieithu terminolegau a dosbarthiadau sydd wedi eu datblygu mewn gwledydd eraill neu gan ddisgyblaethau eraill, ond nid oes cydlynu cyffredinol wedi bod ar y datblygiadau hyn rhwng gwledydd.

Mae gan ddosbarthiadau rhyngwladol botensial ar gyfer nyrsio: mae nyrsys mewn rhai gwledydd yn defnyddio Dosbarthiad Rhyngwladol Namau, Gweithgareddau a Chyfranogi (International Classification of Impairments, Activities and Participation) (ICIDH). Mae Cyngor Rhyngwladol y Nyrsus wedi dechrau datblygu'r ICNP, sef Dosbarthiad Rhyngwladol Ymarfer Nyrsio (International Classification of Nursing Practice).

 

Mae ACENDIO yn cefnogi'r broses hon drwy ddarparu:

  • Cynadleddau, cyhoeddiadau a chyflwyniadau i hybu dealltwriaeth a gwaith yn y maes hwn
  • Rhwydwaith ar gyfer nyrsys yng ngwahanol wledydd Ewrop fel y gallant rannu gwybodaeth ynghylch datblygiadau
  • Adnoddau megis rhestri cyfeirio a methodolegau enghreifftiol ar gyfer datblygu a gwerthuso geirfaoedd nyrsio
  • Dehongli safonau Rhyngwladol ar gyfer terminolegau a dosbarthiadau


Copyright ACENDIO 2006-2008 Updated: 03/02/2008